

Mae pryder bach tuag at ddefnyddio prosesau 'caled' a sydd yn seiliedig ar beiriannau wedi fy ngyrru tuag at awydd am ddull mwy tawel o weithio a sydd yn ceisio bod mor gynaliadwy â phosibl gyda dewisiadau deunydd. Rwyf yn cael fy yrru gan y defnydd helaeth o sgiliau llaw i herio'r defnydd o brosesau peiriant awtomatig yn ogystal â thynnu sylw at werth llafur â llaw sy'n bwysig yn fy nghefndir amaethyddol. Mae hyn er mwyn adeiladu profiadau mewnol sy'n amgylchynu ac yn atgoffa ymatebion emosiynol gan y gwyliwr gyda graddfa y byddai rhywun yn disgwyl ei gyflawni trwy ddefnyddio prosesau diwydiannol. Mae fy ngwaith cerfluniol ar raddfa fawr yn canolbwyntio ar ddefnyddio nodweddion strwythurol papur plyg a'i effaith ofodol wrth ymgorffori golau. Mae fy syniadau'n amrywio o ganhwyllwyr goleuo hynod gymleth sy'n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio ffurfiau brithwaith addasadwy, i waith gosod mwy o faint sy'n gofyn am foeseg waith gref, lefel uchel o ymrwymiad a phenderfyniad er mwyn dod â'r syniadau a'r lefel o gyffro yr hoffwn yn fyw.